Hysbysiadau / Notices


Canllaw i Staff Canolfannau Cyswllt Awdurdodau Lleol
Ymateb i COVID-19
Cynhyrchwyd gan CGGC – 23 Mawrth 2020

Rhestr o gynnwys
• Gwybodaeth i unigolion sydd eisiau gwirfoddoli • Gwybodaeth am ddiogelu ar gyfer grwpiau a mudiadau sy’n recriwtio ac yn defnyddio gwirfoddolwyr • Rôl Cynghorau Gwirfoddol Sirol lleol • Dod o hyd i grwpiau cymorth

Gwybodaeth i unigolion sydd eisiau gwirfoddoli
Gwirfoddoli – Allwn i? A ddylwn i? A sut?
Iechyd yn gyntaf
Gall unrhyw un wirfoddoli ond o dan y canllawiau cyfredol ar gyfer ymateb i’r coronafeirws, ni ddylai’r bobl sydd fwyaf mewn perygl (y rhai sy’n feichiog, dros 70 oed ac sydd â chyflyrau iechyd sylfaenol) ymgymryd â rolau gwirfoddoli a allai gynyddu eu risg o gael eu heintio, neu ei drosglwyddo i eraill a allai fod mewn perygl.
Os oes unrhyw un o dan 18 oed eisiau gwirfoddoli, gweler y canllawiau pellach yma: https://thirdsectorsupport.wales/volunteering/
Meddyliwch am: gall rolau lle na ddewch chi i gysylltiad â phobl eraill gael eu gwneud drwy fynediad o bell drwy defnyddio ffonau, e-bost, facetime etc. Mae’r rolau hyn yr un mor bwysig â nifer o rolau eraill er mwyn atal unigrwydd a datgysylltu.
Gall pobl ddylai fod yn hunan-ynysu oherwydd haint posibl neu mewn perygl o gael eu heintio, hefyd ymgymryd â’r rolau hyn o bell, os ydyn nhw’n ddigon da, ond rhaid iddyn nhw beidio â thorri’r broses hunan-ynysu i wirfoddoli.

Canllawiau Ymbellhau Cymdeithasol
Rhaid i bob gwirfoddolwr ddilyn y canllawiau diweddaraf ar ymbellhau cymdeithasol a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru Canllawiau ar gadw pellter cymdeithasol i bawb yng Nghymru a gwarchod pobl hŷn ac oedolion sy’n agored i niwed
Mae’r sefyllfa yn newid yn gyflym, felly dylai’r rheini sy’n ymwneud â gwirfoddoli a threfnu gwirfoddolwyr fwrw golwg ar y canllawiau hyn yn ddyddiol ac i ddarllen diweddariadau dyddiol Iechyd Cyhoeddus Cymru i sicrhau bod ganddynt y wybodaeth ddiweddaraf.

Opsiynau gwirfoddoli
Gall unigolion sy’n dymuno gwirfoddoli naill ai ymgysylltu â rhwydweithiau cyd-gymorth anffurfiol a gwirfoddoli cymunedol a/neu gofrestru i wirfoddoli’n fwy ffurfiol mewn rôl gyda mudiad.
Cyd-gymorth/cylchoedd cymunedol/gwirfoddoli anffurfiol
Mae nifer o gymdogion eisoes wedi ymrwymo i helpu ac i gefnogi ei gilydd mewn ardal fach iawn. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae hyn yn golygu bod y bobl dan sylw eisoes yn adnabod ei gilydd, i raddau. Ni ddylid rhoi neb dan bwysau i gymryd rhan. Mae cardiau post neu daflenni sydd wedi’u rhoi drwy flychau llythyrau wedi’u defnyddio i ailgyflwyno cymdogion ac i awgrymu sut gallent helpu a chefnogi ei gilydd: o gadw mewn cysylltiad drwy alwadau ffôn, i adael siopa ar y stepen drws, wrth barchu pellter cymdeithasol.

Gellir dod o hyd i fanylion ar ddolenni cyfryngau cymdeithasol fel WhatsApp a grwpiau lleol ar Facebook, etc.
Ymuno â mudiad gwirfoddol sy’n bodoli’n barod
Drwy eich Cyngor Gwirfoddol Sirol lleol neu Gwirfoddoli Cymru, gallwch gofrestru i wneud rôl wirfoddoli benodol gyda mudiad lleol.
Dylai gwirfoddolwyr ddisgwyl orfod cadw at god ymddygiad sy’n ofynnol gan y mudiad.
Gellir gofyn i bob gwirfoddolwr ynglŷn â’u heuogfarnau heb eu disbyddu (y rhai nad yw’r cyfnod adsefydlu wedi dod i ben eto (gweler y wybodaeth yma: Datgloi)) ond dim ond fel mater o arfer da. Mae hyn yr un peth â gwiriad DBS sylfaenol ond gallai fod yn fater o lenwi ffurflen ar-lein syml.
Efallai y bydd angen gwiriadau DBS uwch ar gyfer rhai rolau gwirfoddol eraill ond gan fod y rhain ar gyfer rolau sydd â chysylltiad â’r bobl sydd fwyaf mewn perygl o ran materion diogelu confensiynol, bydd llai o gyfleoedd o’r fath. Dylai rolau sydd angen gwiriadau DBS uwch gael eu nodi’n glir ar y wybodaeth.
Gwybodaeth diogelu i grwpiau a mudiadau sy’n recriwtio ac yn defnyddio gwirfoddolwyr
Mae’n rhaid i ymatebion cymunedol i COVID-19 roi systemau a phrosesau ar waith i warchod buddiolwyr a gwirfoddolwyr rhag camdriniaeth a niwed.

Dyma’r 10 awgrym gorau i’ch rhoi ar ben ffordd
Gweler ein canllawiau manwl ar y wefan am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r holl bwyntiau hyn:

  1. Dylai arweinwyr grŵp roi eu manylion cyswllt i’r buddiolwyr (y bobl y byddwch chi’n eu helpu) a disgrifiad o’r gwasanaethau maen nhw’n bwriadu eu cynnig.
  2. Dylai arweinwyr grŵp greu rôl-ddisgrifiadau ar gyfer gwirfoddolwyr sy’n nodi unrhyw angen am wiriadau DBS (neu e-bostiwch safeguarding@wcva.cymru gyda rôlddisgrifiad). Sylwer: Gellir gofyn i bob gwirfoddolwr ynglŷn â’u heuogfarnau heb eu disbyddu (y rhai nad yw’r cyfnod adsefydlu wedi dod i ben eto (gweler y wybodaeth yma: Datgloi)) ond dim ond fel mater o arfer da. Mae hyn yr un peth â gwiriad DBS sylfaenol ond gallai fod yn fater o lenwi ffurflen ar-lein syml.
  3. Rhaid i arweinwyr grŵp ymgyfarwyddo â’r mathau o weithgaredd a ddiffinnir fel ‘gweithgaredd rheoledig’ ac y byddai angen gwiriad DBS uwch gyda rhestri gwahardd yn ôl y gyfraith.
  4. Dylai’r gwasanaeth greu system glir i fuddiolwyr dynnu sylw gwirfoddolwyr at eu hangen am help: dylid hysbysu gwirfoddolwyr beth i’w wneud nesaf – fel arfer i ffonio’r gwasanaethau brys.
  5. Dylai arweinwyr grŵp sicrhau bod gan wirfoddolwyr fynediad at gydlynydd ag enw sy’n hawdd cysylltu ag ef/hi.
  6. Rhaid i wirfoddolwyr wybod y dylent gysylltu â’r Cydlynydd os oes ganddynt unrhyw bryderon diogelu a dylai’r Cydlynydd gael rhestr o gysylltiadau i wneud atgyfeiriadau, e.e. yr heddlu a gwasanaethau cymdeithasol.
  7. Dylai gwirfoddolwyr ddilyn canllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru ynglŷn â COVID-19 a dylid parchu mesurau diogelwch hefyd.
  8. Rhaid rheoli trafodion ariannol yn ofalus a dylid osgoi cyfnewid arian parod ar bob cyfrif.
  9. Dylai gwirfoddolwyr ddefnyddio ffordd glir o adnabod eu hunain wrth gyfathrebu â buddiolwyr.
  10. Lle bo’n bosib, defnyddiwch y gweithlu gwirfoddol presennol, e.e. gyrwyr cymunedol a chyfeillachwyr.

Rôl Cynghorau Gwirfoddol Sirol lleol
Beth mae Cyngor Gwirfoddol Sirol yn ei wneud? Mae Cyngor Gwirfoddol Sirol ym mhob sir sy’n cefnogi mudiadau gwirfoddol, yn hyrwyddo gwirfoddoli ac yn darparu gwybodaeth i’r cyhoedd.
Gall Cynghorau Gwirfoddol Sirol helpu mudiadau i recriwtio a rheoli gwirfoddolwyr a gall hefyd helpu unigolion i nodi cyfleoedd addas.
Mae Cynghorau Gwirfoddol Sirol yn helpu’r rheini sy’n edrych i wirfoddoli drwy ddarparu cymorth a gwybodaeth uniongyrchol, (naill ai wyneb yn wyneb neu dros y ffôn neu ebost) a thrwy reoli’r gronfa ddata genedlaethol o gyfleoedd gwirfoddoli ar gyfer eu hardal www.volunteering-wales.net.

Gwefan Gwirfoddoli Cymru
Gellir chwilio drwy wefan www.volunteering-wales.net i ddod o hyd i gyfleoedd fesul lleoliad, categori neu air allweddol. Gall unrhyw un chwilio, ond bydd angen i chi gofrestru fel gwirfoddolwr ar y wefan er mwyn mynegi diddordeb mewn cyfle neu i gael manylion cyswllt.
Os ydych chi’n defnyddio’r ddolen isod, yna sgroliwch i lawr, fe welwch chi gyfleoedd sy’n gysylltiedig â COVID 19, a allai fod yn ddefnyddiol.
https://volunteeringwales.net/vk/volunteers/search.htm?searchString=&categories =3042

Mae Cynghorau Gwirfoddol Sirol hefyd yn cynnig cyngor a chefnogaeth i fudiadau a grwpiau, gan gynnwys cyngor ar lywodraethiant, cyllido, diogelu a materion cyfreithiol a’r hyn mae gwirfoddolwyr yn ei wneud.
Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt eich Cyngor Gwirfoddol Sirol lleol fan hyn.

Dod o hyd i grwpiau cymorth lleol
Gallwch ddod o hyd i wasanaethau gwirfoddol ar flaenau eich bysedd! Dewch o hyd i amrywiaeth eang o wasanaethau gwirfoddol a chymunedol gwych sy’n gallu cynnig gwybodaeth a chefnogaeth er mwyn i bobl allu gwneud dewis gwybodus. https://en.infoengine.cymru/
https://www.dewis.wales/
Dyma rai mudiadau allweddol a allai helpu. Cofiwch fod nifer o staff bellach yn gweithio o bell. Gall llinellau ffôn fod yn brysur oherwydd galw mawr. Efallai y byddai’n well anfon ebost yn y lle cyntaf.

Age Connects Cymru
https://www.ageco nnectswales.org.uk/
02920 683600 enquiries@ageconnectswales.org.uk
Yn darparu cefnogaeth i bobl 50+ oed ac mae’n cynnwys 6 mudiad Age Connects annibynnol. Edrychwch am wasanaethau lleol drwy ddilyn y ddolen https://www.ageconnectswales.org.uk/contact neu ffoniwch y prif rhif cyswllt

Age Cymru
https://www.ageuk. org.uk/cymru/ 08000 223 444 (llinell gyngor ar agor Llun-Gwe 9am – 5pm) advice@agecymru.org.uk
Gwybodaeth am fudd-daliadau, iechyd, arian, tai neu ofal i bobl hŷn, eu teulu, ffrindiau, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol. Edrychwch ar y wefan am weithgareddau lleol neu drwy eu cyfeiriad e-bost a chofiwch gynnwys y lleoliad

Cymdeithas Alzheimer’s
https://www.alzh eimers.org.uk/abo ut-us/wales 0300 222 122 (llinell gyngor genedlaethol 9am – 5pm ar gyfer swyddfeydd lleol) Ffoniwch y llinell gyngor genedlaethol Yn darparu amrywiaeth o wybodaeth a chyngor

Fforwm Rhieni a Gofalwyr Cymru Gyfan
http://www.allwal esforum.org.uk/
029 2081 1120 (9 am – 4pm Llun – Iau)
Ffurflen gysylltu drwy e-bost ar eu gwefan
Yn cefnogi rhieni a gofalwyr pobl ag anableddau dysgu ledled Cymru gyda gwybodaeth a chyfeirio CALL http://www.callhel pline.org.uk/ 0800 132 737 (rhadffôn 24/7) Testun 81066 Prif gyswllt drwy’r llinell gymorth Mae’r llinell gymorth yn rhoi cymorth emosiynol a gwybodaeth am faterion iechyd meddwl yng Nghymru

Gofal a Thrwsio Cymru
http://www.carean drepair.org.uk
02920 107580 (ffoniwch y rhif hwn i gael gwybod am wasanaethau Gofal a Thrwsio lleol
https://www.careandrepair.org.uk/en/a bout-us/contact-us/ i e-bostio ymholiad
Mae’r llinell gymorth yn rhoi cymorth emosiynol a gwybodaeth am faterion iechyd meddwl yng Nghymru

Ymddiriedolaeth y Gofalwyr
https://carer s.org/country /carers-trustwales-cymru
0300 772 9702 wales@carers.org
Cefnogaeth a gwasanaethau i ofalwyr di-dâl. Mae ganddynt sawl prosiect gan gynnwys un sy’n canolbwyntio ar ofalwyr ifanc

Gofalwyr Cymru
https://www.carers uk.org/wales
02920 811370 Info@carerswales.org
Yn darparu cyngor, gwybodaeth a chymorth arbenigol i ofalwyr di-dâl, yn cysylltu gofalwyr am gydgefnogaeth

Cyngor ar Bopeth
https://www.citizensadvice.org.uk
03444 772020 (Llinell Gymorth) – Ffoniwch y Llinell Gymorth
Yn darparu gwybodaeth am fudd-daliadau, gwaith, arian a debyd, materion defnyddwyr, tai, deddfau a phrosesau’r llys, mewnfudo a materion iechyd.

Plant yng Nghymru
https://www.childr eninwales.org.uk/
02920 342434
Defnyddiwch eu tudalen gyswllt i gyflwyno ymholiad e-bost https://www.childreninwales.org.uk/co ntact/
Plant yng Nghymru yw’r sefydliad ymbarél ar gyfer mudiadau ac unigolion sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc, a fydd yn gallu cyfeirio at fudiadau perthnasol sy’n gallu helpu

Cartrefi Cymunedol Cymru
https://chcymru.org .uk/ 0290 674810 enquiries@chccymru.org.uk
Yn cynrychioli dros 70 o gymdeithasau tai dielw ac yn cynnig gwybodaeth am faterion tai yng Nghymru

Anabledd Cymru
http://www.disabili tywales.org/ 02920 887325 info@disabilitywales.org
Gwybodaeth a chyngor am hawliau anabledd

Hafal
https://www.hafal. org/ 01792 816600/832400 hafal@hafal.org
Yn cefnogi pobl â salwch meddwl difrifol a’u gofalwyr drwy raglenni adfer a hunanreolaeth
Dolen ddefnyddiol i gyngor am Iechyd Meddwl ac Arian https://www.mentalhealthandmoneyadvice.org/wal/

Anabledd Dysgu Cymru
https://www.ldw.or g.uk/ 02920 752149 enquiries@ldw.org.uk
Yn darparu gwybodaeth am yr holl faterion sy’n ymwneud ag anabledd dysgu mewn fformatau hygyrch

Marie Curie
https://www.marie curie.org.uk/who/w hat-we-do/en 01495 740818
Ffoniwch y rhif ffôn am fwy o wybodaeth Yn cefnogi pobl â salwch angheuol gan ddarparu gofal nyrsio.

Mind Cymru
https://www.mind. org.uk/aboutus/mind-cymru/ 02920 395123 (Llun-Gwe 9am-6pm) info@mind.org.uk
Yn darparu gwybodaeth, cymorth a chyngor i bobl â phroblemau iechyd meddwl a’u teuluoedd/gofalwyr Cymorth ar-lein: https://www.mind.org.uk/information-support/

Y Groes Goch Brydeinig
https://www.redcro ss.org.uk/campaign s/volunteer-inwales 02920 695740
cardiff@redcross.org.uk
Mae’r gwasanaethau yng Nghymru yn cynnwys cymorth ar ôl dod adref o’r ysbyty, cadeiriau olwyn, llogi comôd a help gyda materion ariannol.

Y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol (RVS)
https://www.royalv oluntaryservice.org. uk/
0330 5550310 (Llun – Gwe: 8am5pm)
Ffoniwch y llinell gymorth
Mae’r gwasanaethau yng Nghymru yn cynnwys cymorth ar ôl dod adref o’r ysbyty, cadeiriau olwyn, llogi comôd a help gyda materion ariannol.

Y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol (RVS)
https://www.royalv oluntaryservice.org. uk/
0330 5550310 (Llun – Gwe: 8am5pm)
Ffoniwch y llinell gymorth
Mae’r RVS yn cynnig cymorth ymarferol gan gynnwys gwasanaethau lles a chymorth ysbyty

St John’s Cymru
https://stjohnwales. org.uk/
02920 449631 pts@stjohnswales.org.uk
Mae St John’s Cymru yn darparu gwasanaethau cludiant mewn ysbytai ledled Cymru.

Shelter Cymru
https://sheltercymr u.org.uk/
0333 2700182 (Llun-Gwe 9.30am – 4pm) Cyngor arbenigol ar ddyled 0333 2700182 (Llun-Gwe 9.30am – 4pm)

Ffoniwch y llinellau cymorth
Yn darparu gwybodaeth a chyngor ar faterion tai a dyled i’r rheini sy’n cael eu hunain yn ddigartref neu sydd eisoes heb lety.


Gwybodaeth cymunedol Covid-19

Rydym wedi creu dogfen wybodaeth ar gyfer y math o gefnogaeth sydd gan ein cymunedau i bobl gael mynediad iddi. Mae’r ddogfen hon yn cael ei diweddaru bob dydd. Dilynwch y ddolen ar wefan y Cyngor Sir:

www.ynysmon.gov.uk

Cyngor Sir Ynys Môn yn ymrwymo rhagor o gyllid ar gyfer Banciau Bwyd Ynys Môn

Wedi’i bostio ar 18 Mawrth 2020

Heddiw, mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi cadarnhau ei fod yn ymrwymo £30,000 i helpu i gefnogi Banciau Bwyd Ynys Môn.
Yn ystod yr amser tyngedfennol hwn bydd Banciau Bwyd yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu’r rheini sydd mewn angen a byddant yn achubiaeth i lawer o deuluoedd yn ystod yr wythnosau nesaf.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, y Cynghorydd Llinos Medi, “Ni ddylai neb yn ein cymuned orfod wynebu llwgu a dyna pam rydym yn ymrwymo’r arian hwn, er mwyn caniatáu i’r banciau bwyd barhau â’u gwaith anhygoel. “
Mae’r galw eisoes wedi cynyddu ym manciau bwyd Amlwch a Chaergybi yn ystod yr wythnos ddiwethaf ac mae’r galw’n debygol o dyfu wrth i ni symud ymlaen trwy’r sefyllfa Coronafeirws; ar ôl y cyhoeddiad y dylai bod pobl dros 70 oed a’r rheini â chyflyrau iechyd cronig hunanynysu am gyfnodau hir, a rŵan bod yr ysgolion wedi cau.
Mae’r awdurdod wedi ymrwymo i gefnogi’r rheini sydd eisiau helpu mewn partneriaeth â Menter Môn a Medrwn Môn, ac rydym eisoes wedi gweld haelioni rhai unigolion a grwpiau cymunedol.
Ychwanegodd Llinos, “Rwy’n falch o weld sut mae cymunedau Ynys Môn wedi dod at ei gilydd. Yn ystod yr ychydig ddyddiau diwethaf yn unig mae Neuadd y Dref Caergybi wedi rhoi eu holl stociau bwyd i’r banciau bwyd ac mae’r elusen leol, Cefnogi Elusen hefyd wedi bod mor garedig â rhoi £1,000 i ganiatáu i’r banciau bwyd brynu cynhyrchion hylendid. Heb anghofio’r holl gefnogaeth gan fusnesau lleol a haelioni staff Cyngor Ynys Môn, sydd wedi rhoi amser, arian a bwyd. ”
“Mae’r Cyngor bellach yn gweithio gyda chyflenwr lleol i brynu stociau o fwyd ar gyfer poblogaeth yr ynys. Fodd bynnag, ni fydd y rhain yn para’n hir iawn a dyna pam rwyf hefyd yn annog y cyhoedd i roi’r hyn y gallant. Mae Menter Môn wedi sefydlu Tudalen Go Fund Me i gefnogi’r banciau bwyd ac wedi gosod targed uchelgeisiol o £20,000 a fydd yn mynd tuag at gefnogi’r rheini sydd mewn angen.”
“Edrychwch ar ôl eich gilydd.”
I gael rhagor o wybodaeth am y dudalen Go Fund Me. I gael gwybodaeth am Fanciau Bwyd Ynys Môn dilynwch y ddolen hon: https://anglesey.foodbank.org.uk/
DIWEDD: 18/03/2020


Ynys Môn wedi ymrwymo i gefnogi gwirfoddolwyr sy’n helpu pobl fregus yr Ynys

Mae Cyngor Sir Ynys Môn, Medrwn Môn a Menter Môn wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth er mwyn cefnogi’r rhai mwyaf bregus ar yr Ynys yn ystod cyfnod y Coronafeirws.
Bu Uwch Swyddogion y sefydliadau gyfarfod ddoe (dydd Llun, 16 Mawrth) gan gytuno i gymryd camau ar y cyd a fydd yn darparu cymorth ac arweiniad i grwpiau gwirfoddol sydd eisiau helpu’r rhai hynny sydd mewn angen ac a fydd yn gorfod hunan-ynysu.
Meddai Prif Weithredwr Cyngor Sir Ynys Môn, Mrs Annwen Morgan, “Mae hwn yn amser critigol i bawb ac mae’n bwysig bod pobl a chymunedau yn gofalu am ei gilydd. Gyda phobl dros 70 oed a’r rhai hynny sydd â chyflyrau iechyd cronig yn cael eu cynghori i hunan-ynysu am gyfnodau hir, rydym wedi cymryd mesurau arbennig ar y cyd â’n partneriaid er mwyn helpu’r rhai hynny a fydd mewn angen.”
“Mae dau achos eisoes wedi eu cadarnhau ar yr Ynys ac rydym yn gwbl ymwybodol fod trigolion yn bryderus. Fel Awdurdod, rydym yn gwneud popeth posibl i sicrhau bod ein gwasanaethau yn cael eu cynnal yn ystod y cyfnod hwn. Fodd bynnag, rydym yn debygol o wynebu heriau ychwanegol sylweddol dros y misoedd nesaf a byddwn yn ceisio cymorth ein Cynghorau Tref a Chymuned ynghyd a’n cymunedau yn ystod y cyfnod hwn.”
Bydd y Cyngor Sir, mewn partneriaeth â Medrwn Môn a Menter Môn yn cydweithio â chymunedau lleol a gwirfoddolwr er mwyn sicrhau bod cefnogaeth ar gael i’r rhai mwyaf bregus, adnabod pa gymorth cymunedol sydd eisoes ar gael a mapio’r galw posibl y mae’r Ynys yn ei hwynebu.
Nod hyn fydd creu canllaw ar gyfer unrhyw unigolyn/gwirfoddolwr, grŵp cymunedol neu Gyngor Tref a Chymuned a hoffai ddarparu cymorth yn ystod y cyfnod hwn ynghyd â chynnig arweiniad i’r rhai hynny sy’n dymuno helpu, gosod targedau realistig ac amlinellu mesurau rhagofalus a fydd yn diogelu pawb perthnasol.
Mae’r Cyngor Sir yn dilyn cyngor a chanllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru ac yn cymryd camau rheolaidd mewn ymateb i’r newidiadau dyddiol. Mae’r Deyrnas Unedig bellach wedi symud i’r cyfnod ‘oedi’ er mwyn ceisio rheoli lledaeniad yr haint gan annog pobl i olchi eu dwylo yn fwy aml ac i unrhyw un sydd â gwres neu sy’n tagu o’r newydd aros adref am 14 diwrnod.
Dywedodd Dafydd Gruffydd, Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn, “Ar adeg fel hyn mae’n bwysig fod Menter Môn yn ymateb i’r argyfwng sydd yn gwynebu yr Ynys. Mae gennym staff, sgiliau ac adnoddau a byddwn yn cydweithio gyda eraill i sicrhau fod rhain yn cael ei rhoi ar waith er budd ein cymunedau.”
Ychwanegodd Annwen, “Rydym yn cynghori pawb i fod yn ofalus. Ein nod rŵan yw sicrhau bod cefnogaeth ar gael ar gyfer y rhai mwyaf bregus ar yr Ynys. Mae gwytnwch cymunedol yn hanfodol ac mae gan bawb rôl i’w chwarae er mwyn amddiffyn ei gilydd. Ein nod yw sicrhau ein bod yn darparu ein cymunedau â’r cyfarpar cywir a fydd yn eu galluogi nhw i helpu’r rhai hynny sydd mewn angen.”
“Bydd y cynlluniau cefnogi cymunedau yn barod cyn gynted â phosib er mwyn galluogi cymunedau i ddarparu cymorth mewn modd cyson ledled yr Ynys. Mae hwn yn gyfnod heriol i bawb a hoffwn ddiolch i’r grwpiau cymunedol hynny, megis y rhai hynny yn Amlwch, Cemaes, Porthaethwy, Caergybi a Llanfairpwll sydd eisoes wedi eu sefydlu er mwyn cynorthwyo eu cymunedau.”
“Mae llawer mwy a fydd yn gallu helpu mewn gwahanol ffyrdd ac rwy’n eich annog i gysylltu â Linc Cymunedol Môn a fydd yn eich cyfeirio at y cyswllt priodol yn eich cymuned.”
Os hoffech chi neu grŵp cymunedol neu Gyngor Tref a Chymuned fwy o wybodaeth dylech gysylltu drwy ffonio 01248 725745, 01248 724944 neu 01248 725700 neu gallwch anfon e-bost at linc@medrwnmon.org.
DIWEDD: 17.03.2020